Hyfforddiant Diffib/ACA yn y Gymuned
£25 y person (TAW ddim yn berthnasol)
Hwn yw ein cwrs hyfforddi diffibrilio a CPR cymunedol.
Oeddet ti'n gwybod bod pob munud heb CPR a diffibrilio ar ôl ataliad y galon yn lleihau siawns y person o oroesi o 10%?
Fuase ti'n gwybod sut i ddelio gyda rhywun sy'n anymwybodol a ddim yn anadlu?
Os na, mae'r sesiwn yma i ti. Mae'n addas ar gyfer unrhyw un, bydd ond yn cymryd 2 awr o dy amser ac mae'n anffurfiol ac ymarferol. Ond yn bwysicach na dim, gall achub bywyd rhywun.
Dysga sut i adnabod rhywun sy'n anymwybodol a ddim yn anadlu a sut i gynnal bywyd trwy CPR a defnyddio diffibriliwr nes bydd cymorth proffesiynol yn cyrraedd.
Cyrsiau agored ar gael mewn gwahanol leoliadau trwy hyd a lled Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Gallwn hefyd arwain yr hyfforddiant yn eich lleoliad chi os oes grŵp ohonoch angen yr hyfforddiant.
Mae'r lleoliadau sydd ar gael ar hyn o bryd wedi'w rhestru oddi tano. Plȋs cliciwch ar y linc am ddyddiadau ac argaeledd.
Canolfan Hamdden Plas Madoc, Ffordd Llangollen, Acrefair, Wrecsam LL14 3HL
Prospect House, Ffordd Ffatri, Sandycroft, Glannau Dyfrdwy. CH5 2QJ
Rydym wedi cwblhau asesiad risg Cofid-19 ar gyfer pob un o'n cyrsiau. Os oes ganddoch chi unrhyw bryderon ynglŷn â hyn, rydym yn fwy na hapus i rannu ein dargynfyddiadau gyda chi.