Hyfforddiant Diffib/ACA yn y Gymuned Wrecsam
£25 y person (TAW ddim yn berthnasol)
Hwn yw ein cwrs hyfforddi diffibrilio a CPR cymunedol yn Canolfan Hamdden Plas Madoc, Ffordd Llangollen, Acrefair, Wrecsam LL14 3HL
Oeddet ti'n gwybod bod pob munud heb CPR a diffibrilio ar ôl ataliad y galon yn lleihau siawns y person o oroesi o 10%?
Fuase ti'n gwybod sut i ddelio gyda rhywun sy'n anymwybodol a ddim yn anadlu?
Os na, mae'r sesiwn yma i ti. Mae'n addas ar gyfer unrhyw un, bydd ond yn cymryd 2 awr o dy amser ac mae'n anffurfiol ac ymarferol. Ond yn bwysicach na dim, gall achub bywyd rhywun.
Dysga sut i adnabod rhywun sy'n anymwybodol a ddim yn anadlu a sut i gynnal bywyd trwy CPR a defnyddio diffibriliwr nes bydd cymorth proffesiynol yn cyrraedd.
Cyrsiau agored ar gael mewn gwahanol leoliadau trwy hyd a lled Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Gallwn hefyd arwain yr hyfforddiant yn eich lleoliad chi os oes grŵp ohonoch angen yr hyfforddiant. Cysylltwch ni ar 01352 781965/hello@hivecollaborative.co.uk
Gwelwch oddi tano argaeledd ein cyrsiau agored yn Canolfan Hamdden Plas Madoc, Ffordd Llangollen, Acrefair, Wrecsam LL14 3HL.
Mae'r cyrsiau o 12:30 hyd at 14:30
Mae pob cwrs sydd ar gael yn cael ei ddangos mewn gwyrdd. Os does dim dyddiad gwyrdd yn dangos, edrychwch ar y misoedd nesaf. Os cliciwch ar y dyddiad cewch yr opsiwn i archebu lle trwy glicio ar Archebwch Nawr o dan y botwm gwyrdd sy'n dweud Available. Unrhyw broblemau, plȋs ffoniwch ni ar 01352 781965.
Searching Availability...
Rydym wedi cwblhau asesiad risg Cofid-19 ar gyfer pob un o'n cyrsiau. Os oes ganddoch chi unrhyw bryderon ynglŷn â hyn, rydym yn fwy na hapus i rannu ein dargynfyddiadau gyda chi.