Pwy sydd angen hyfforddiant iechyd a diogelwch?
Mae pawb, mewn pob sefydliad angen derbyn rhyw fath o hyfforddiant iechyd a diogelwch. Mae pob un gweithiwr, cyfarwyddwr a chontractiwr angen y wybodaeth, sgiliau a'r gallu i reoli iechyd a diogelwch o fewn eu maes nhw o waith.Manteision i fusnes o gynnal hyfforddiant iechyd a diogelwch
Mae gan fusnesau a gweithwyr masnach hunan-gyflogedig gyfrifoldeb cyfreithiol a moesol am reolaeth iechyd a diogelwch da. Ni ddylse iechyd a diogelwch gael ei ystyried fel baich i fusnes gan fod nifer o fanteision sy'n cynnwys:- Lleihad risg.
- Cost gostyngol.
- Cyfraddau salwch a trosiant gweithwyr llai.
- Llai o ddamweiniau.
- Llai o fygythiad cyfreithiol.
- Enw da ymysg partneriaid a chyflenwyr
- Enw gwell o ran cyfrifoldeb corfforaethol ymysg cwsmeriaid, buddsoddwyr a'r cyhoedd.
- Cynhyrchiant yn cynyddu oherwydd bod gweithwyr yn hapusach, iachach ac yn fwy hunan gymhelliol.
Tabl yn cynnwys cyfrifoldebau cyflogwyr a gweithwyr.
Cyfrifoldebau Gweithwyr | Cyfrifoldebau Cyflogwyr |
I gymryd gofal rhesymol am ddiogelwch eich hunain a phobl eraill. | Sicrhau bod hyfforddiant iechyd a diogelwch yn cael ei gyflwyno i bob aelod o staff. |
I beidio cam-ddefnyddio neu ymyrryd âg offer sydd wedi eu rhoi i chi ar gyfer eich iechyd a diogelwch e.e. offer diogelwch. | Cyflenwi dillad ac offer diogelwch priodol. |
I gyd-weithio gyda'ch cyflogwr trwy gwblhau hyfforddiant, gwisgo dillad diogelwch a dilyn polisiau iechyd a diogelwch. | Gwneud yn siwr bod cyfleusterau o leiaf at safon gofynion isaf iechyd a diogelwch o ran tymheredd, sŵn ac awyriad. |
I roi gwybod i'r cyflogwr am unrhyw salwch neu anaf fydd yn effeithio ar eich gallu i weithio. | Bod â pholisi cyfoes iechyd a diogelwch. |
Cynnal amgylchedd waith diogel trwy sicrhau bod offer yn cael eu cynnal yn gywir ac yn saff i'w defnyddio, bod arwyddion rhybudd priodol yn cael eu harddangos a bod cyfleusterau cymorth cyntaf addas ar gael. |
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch - Arolwg
Mae saith modiwl i'r cwrs yma:- Cyflwyno Iechyd a Diogelwch.
- Deall eich cyfrifoldebau a'r gyfraith.
- Adnabod peryglon.
- Adnabod risg.
- Rheoli Risg.
- Ymchwilio damweiniau a digwyddiadau.
- Mesuro perfformaid.
- Penodi swyddog iechyd a diogelwch cyfrifol.
- Paratoi polisi iechyd a diogelwch.
- Deall a gallu cwblhau asesiadau risg.
- Gallu cwblhau ymchwiliadau iechyd a diogelwch yn gymwys.
- Bod yn hyderus wrth adrodd a rheoli damweiniau a digwyddiadau.
- Gwybod sut i rannu gwybodaeth am faterion iechyd a diogelwch gyda'r gweithwyr.
- Bod yn hyderus yn darparu gwybodaeth a hyfforddiant.
Lleoliad a hyd cwrs ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch
Mae'r cwrs yn gallu cael ei arwain yn allanol, neu ar eich safle i leihau ymyrraeth â'r busnes. Mae'n gwrs 7 awr o hyd gyda amser dechrau hyblyg i gyd-fynd gyda'ch amseroedd busnes. Os nad yw eich busnes yn gweithredu 9-5, rydym yn hapus i gynnig hyfforddiant o amgylch y cloc, gan gynnwys penwythnosau, ayyb. Bydd cost bychan ychwanegol i gyrsiau sy'n cael eu harwain y tu allan i oriau cyffredin, gweler y termau oddi tano.
Costau iechyd a diogelwch gwael yn y gweithle
Mae ystadegau yr HSE yn arddangos costau dynol ac ariannol o beidio rhoi sylw i iechyd a diogelwch yn y gweithle: Pob blwyddyn:- Miliynau o ddiwrodau gwaith yn cael eu colli oherwydd salwch ac anafiadau.
- Miloedd o bobl yn marw o afiechydon sy'n gyswllt â'r gwaith.
- Tua miliwn o weithwyr yn datgan eu bod yn dioddef o salwch sy'n gyswllt â'r gwaith.
- Canoedd o filoedd o weithwyr yn cael eu hanafu yn y gwaith.
- Mae gweithiwr yn marw o ganlyniad i anaf yn y gwaith pob diwrnod gwaith.
- Sefydliadau yn derbyn costau ychwanegol-fel colledion yswiriant a cholli enw-da.
Wyneb-yn-Wyneb Dulliau Asesu
Asesu parhaus drwy gydol y cwrs. Uchafswm Dysgwyr i bob Tiwtor
Mae'r cwrs Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch gyda chymhareb uchafswm o 12:1 Proses Ail-Gymhwyso Argymhellir eich bod chi, neu eich staff yn mynychu hyfforddiant gloywi pob 3 blynedd.
Cwestiynnau Cyffredin Cwrs Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch
Beth yw'r prif resymau am reoli iechyd a diogelwch?
Y rhesymau pennaf am reoli iechyd a diogelwch yw rhesymau Moesol, Cyfreithiol ac Ariannol. Bydd y cwrs Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch yn esbonio'r rhain yn fanwl.
Pwy sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn y gweithle?
Mae iechyd a diogelwch yn y gweithle yn gyfrifoldeb ar y cyflogwr a'r gweithwyr.
Oes rhaid i fusnesau fod â pholisi iechyd a diogelwch?
Mae'r gyfraith yn datgan bod rhaid i bob busnes fod â pholisi iechyd a diogelwch. Os oes ganddoch bump neu fwy o weithwyr, mae'r polisi yma yn gorfod bod yn ysgrifenedig. Os oes ganddoch lai na 5 o weithwyr does dim rhaid i chi gael polisi ysgrifenedig on mae'n ddefnyddiol i wneud hynny.
Mae'n rhaid i chi rannu'r polisi, ac unrhyw newidiadau iddo gyda'ch gweithwyr.
Beth yw polisi iechyd a diogelwch?
Mae polisi iechyd a diogelwch yn gosod sut ydych yn mynd i ymdrin â iechyd a diogelwch. Mae'n esbonio sut eich bod chi, y cyflogwr, yn mynd i reoli iechyd a diogelwch yn eich busnes. Dylse ddatgan yn glir pwy sy'n gwneud be, pryd a sut.
Telerau cyrsiau ar eich safle
Fel ein bod yn gallu arwain cwrs ar eich safle chi, gwiriwch y canlynol os gwelwch yn dda: - Bod eich safle o fewn yr ardal ar y map oddi tano. Rydym yn gallu ac yn ddigon bodlon trafeilio'n bellach i arwain cwrs iechyd a diogelwch ond os gwelwch yn dda, cysylltwch ni gyntaf i drafod prisiau cyn trefnu. Rydym yn anelu i gynnig hyfforddiant fforddiadwy ym mhob ardal o'r DU, ond efallai y bydd costau ychwanegol os nad oes gennym hyfforddwyr iechyd a diogelwch yn eich ardal chi. - Os ydych eisiau i ni gynnal cwrs y tu allan i oriau 08:00 i 18:00 dydd Llun i Gwener, bydd cost bach ychwanegol yn cael ei gynnwys i'ch anfoneb. o Friday 1800 to Monday 0800, additional £20 per hour. E.g., Health & Safety Awareness course is 7 hours. Additional charge = £140. - Llun i Iau, 18:00 - 08:00 ar ddydd Gwener, £15 yr awr yn ychwanegol. - Gwyliau banc, 00:00 - 00:00, £30 yr awr yn ychwanegol. - Ystafell ddigon mawr i wneud yr elfen ymarferol o'r cwrs (cofiwch am bellter cymdeithasol yn ystod Cofid-19). Ar gyfer 12 unigolion yn mynychu, mae maint yr ystafell angen bod yn fwy na 36 metr sgwâr. - Ystafell sydd ddigon mawr i'w ddefnyddio ac mae posib unai arddangos llun taflunnydd ar y wal neu lle i sgrȋn. Hefyd rhywle lle nad oes sŵn a dim fydd yn tynnu sylw ayyb. - Mynediad i gyfleusterau lles.