Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Mewnol ac ar eich Safle Chi - Gogledd Cymru
Ydych chi'n edrych am gwrs mewnol ar eich safle chi yng Ngogledd Cymru? Gwych, mae gennym yr ateb i chi. Mae pob un o'n cyrsiau Cymorth Cyntaf yn y Gweithle a chyrsiau Diffibriliwr yn gallu cael eu harwain yn fewnol yn ei safle chi. Hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn eich ardal chi, dydi o ddim yn dod yn agosach na hyn!
Cyrsiau cymorth cyntaf y tu hwnt i oriau cyffredin
Angen cwrs cymorth cyntaf y tu hwnt i oriau cyffredin? Os nad yw gweithrediadau eich busnes yn 9-5, neu efallai nad ydych yn gallu rhyddhau'r amser i gwblhau hyfforddiant o fewn oriau gwaith, rydym yn hapus i gynnig hyfforddiant o amgylch y cloc gan gynnwys penwythnosau. Rydym yn awgrymu os oes ganddoch lai na 6 aelod o staff angen hyfforddiant efallai y bydd hi'n fwy cost effeithiol i chi archebu lle iddynt ar un o'n cyrsiau agored. Mae'r rhain yn cael eu harwain yn ein ystafell hyfforddiant yng Nglannau Dyfrdwy, Gogledd Cymru. Os oes angen, gallwn drefnu i chi ddod i'n safle ni i dderbyn yr hyfforddiant ar ôl oriau gwaith arferol os yw hyn yn eich gweddu'n well.
Rydym wedi ein lleoli yng Nglannau Dyfrdwy, Sir y Fflint. Mae ein hyfforddwyr iechyd a diogelwch a cymorth cyntaf sydd wedi eu lleoli yn ein prif swyddfa fel arfer yn gallu trafeilio hyd at 1 awr o gôd post CH7. Mae'r ardal hon yn cynnwys Gogledd Cymru a'r Gogledd Orllewin, Glannau Merswy a'r Wirral; Gaer, Porth Ellesmere, Birkenhead, Wallasey, Wrecsam, Abergele, Glannau Dyfrdwy a Brychdyn, ayyb.
Ein gofyniadau ar gyfer cyrsiau cymorth cyntaf mewnol
Fel ein bod yn gallu arwain cwrs ar eich safle chi, gwiriwch y canlynol os gwelwch yn dda:
Bod eich safle o fewn yr ardal ar y map oddi tano. Rydym yn gallu ac yn ddigon bodlon trafeilio'n bellach i arwain cyrisau cymorth cyntaf ond os gwelwch yn dda, cysylltwch ni gyntaf i drafod prisiau cyn prynu. Rydym yn anelu i gynnig hyfforddiant fforddiadwy ym mhob ardal o'r DU, ond efallai y bydd costau ychwanegol os nad oes gennym hyfforddwyr cymorth cyntaf yn eich ardal chi.
- Os ydych eisiau i ni gynnal cwrs y tu allan i oriau 08:00 i 18:00 dydd Llun i Gwener, bydd cost bach ychwanegol yn cael ei gynnwys i'ch anfoneb.
- Dydd Gwener 18:00 i 08:00 fore llun, £20 yr awr yn ychwanegol e.e mae cwrs cymorth cyntaf yn y gweithle fel ail-gymhwysder yn gwrs 8 awr. Cost ychwanegol = £120.
- Llun i Iau, 18:00 - 08:00 ar ddydd Gwener, £15 yr awr yn ychwanegol.
- Gwyliau banc, 00:00 - 00:00, £30 yr awr yn ychwanegol.
- Ystafell ddigon mawr i wneud yr elfen ymarferol o'r cwrs (cofiwch am bellter cymdeithasol yn ystod Cofid-19). Ar gyfer 12 unigolion yn mynychu, mae maint yr ystafell angen bod yn fwy na 36 metr sgwâr.
- Ystafell sydd ddigon mawr i'w ddefnyddio ac mae posib unai arddangos llun taflunnydd ar y wal neu lle i sgrȋn. Hefyd rhywle lle nad oes sŵn a dim fydd yn tynnu sylw ayyb.
- Mynediad i gyfleusterau lles.
Hyforddiant Cymorth Cyntaf Achrededig yng Ngogledd Cymru a Gorllewin Lloegr
Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle plȋs cysylltwch ni i drafod eich gofyniadau:
Ffôn: 01352 781965
Ebost: hello@hivecollaborative.co.uk
Dangos pob 7 canlyniad
-
Cwrs Diffibriliwr ac ACA (CPR)/hyd at 6 o bobl
£245.00 Ychwanegu i'r fasged -
Cwrs Cymorth Cyntaf yn y Gweithle mewn Argyfwng/hyd at 6 o bobl
£495.00 Ychwanegu i'r fasged -
Cwrs Cymorth Cyntaf yn y Gweithle/hyd at 6 o bobl
£1,085.00 Ychwanegu i'r fasged -
Cwrs Gloywi Blynyddol Cymorth Cyntaf yn y Gweithle/hyd at 6 o bobl
£245.00 Ychwanegu i'r fasged -
Cwrs Cymorth Cyntaf yn y Gweithle fel Ail-Gymhwyster/hyd at 6 o bobl
£495.00 Ychwanegu i'r fasged -
Cwrs Cymorth Cyntaf Pediatreg mewn Argyfwng/hyd at 6 o bobl.
£375.00 Ychwanegu i'r fasged -
Cwrs Cymorth Cyntaf Pediatreg llawn/hyd at 6 o bobl.
£420.00 Ychwanegu i'r fasged